Cyngor Diogelwch Ffederasiwn Rwsia

Arwyddlun Cyngor Diogelwch Ffederasiwn Rwsia

Corff ymgynghorol i Arlywydd Ffederasiwn Rwsia sy'n gweithio ar benderfyniadau'r Arlywydd ynghylch diogelwch cenedlaethol yw Cyngor Diogelwch Ffederasiwn Rwsia (Rwseg: Совет Безопасности Российской Федерации). Sefydlwyd ym Mai 1992, ac mae ei aelodau'n cynnwys swyddogion llywodraethol sy'n gyfrifol am rannau penodol o ddiogelwch (megis diogelwch amgylcheddol), yn ogystal ag aelodau dethol o'r Duma.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search